Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
26 Awst 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6405
------
Dataganiad gan y Llywydd
Croesawyd Aelodau gan y Llywydd i adalw’r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9 a nododd y bydd y Cyfarfod Llawn hwn, sy’n cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Datganodd y Llywydd, wedi ymgynghori gyda’r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw: mae'r rhain wedi eu nodi ar yr Agenda.
Hefyd, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd bod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfniada a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, mae’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, er y byddai cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a byddai’r cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Datganiad gan y Prif Weinidog - Coronafeirws (Covid-19)
The item started at 13.30
2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7368 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Gorffennaf 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
2 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig.
3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7369 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 07 Awst 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
2 |
2 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7370 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Awst 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
2 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig.
5 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 15.07, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 15.20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Medi 2020